Please find attached an update on the proposed fishing controls in Wales.
You will note that as a result of the outlined timescales, NRW can announce that there will be no change to
fishing byelaws for the 2017 season. Mandatory Catch and Release fishing for salmon and
additional measures for sea trout in Welsh rivers, which has been our preferred option for
most rivers, will not be introduced for the 2017 season. This is because we have concluded
that we need more time to ensure we have confirmed the right set of measures to secure the
right outcome.
Briefing for Local Fishery Groups
SALMON AND SEA TROUT STOCK STATUS.
PROPOSED FISHING CONTROLS IN WALES – AN
UPDATE
Fisheries EP&P Team, February 2017
A SHARED VISION
- NRW is charged by Welsh Government with the implementation and discharge of relevant
statutory duties for fisheries to ensure the sustainable management of populations of
freshwater and migratory fish in Wales.
- The fisheries of Wales are iconic, renowned, and highly valued – contributing to viable, vibrant
communities in Wales. The fish stocks that support them are equally valued as an important
natural resource and we seek to manage them within sustainable limits
- The status of Welsh fisheries is an indicator of the health and resilience of the natural
resources of Wales. Several species support designations in 8 Natura 2000 sites in Wales.
- Our vision is for healthy, wild populations of fish in Wales supporting thriving and sustainably
managed fisheries.
ENGAGEMENT AND FUTURE CONSULTATION
Engagement with Local Fisheries Groups (LFGs) on the status of our salmon and sea trout stocks,
and possible new exploitation controls required to improve their status, has been ongoing for at
least a year. So far this has been through informal liaison at which we have sought views and
experience from fishermen and stakeholders across Wales.
Changing existing fisheries byelaws for salmon and sea trout is a complex issue. We have to
make the right decision to protect depleted fish stocks and ensure they are managed sustainably
for the future benefit of fishermen and the people of Wales.
We have spoken with fisheries groups across Wales over the past year, and have been reviewing
all available evidence. We continue to do so, and when we have fully considered all relevant
matters, we will then decide on what is required to address stock declines. This is still likely to
include new rod and net fishing byelaws for the 2018 season, and also the renewal of the all-Wales
Net Limitation Order.
We have listened to our LFGs, and have received and welcomed a great deal of constructive
feedback and comments. We are grateful to all who have contributed, and we have taken full
account of all views in carefully reviewing our position. This has taken longer than we thought, and
the process is therefore delayed, but we still hope to launch a formal public consultation soon. We
now hope to initiate this in April, when you will see the package of measures that we will be
commending to Welsh Government.
Due to the complex and potentially contentious nature of the measures, the consultation will be
open for a period of 12 weeks, rather than the normal 4-6 week period. This will ensure that all
have enough time to respond. Thereafter there will be a period to consider and respond to representations.
www.naturalresourceswales.gov.uk Page 1 of 4
As a result of this outline timescale, NRW can announce that there will be no change to
fishing byelaws for the 2017 season. Mandatory Catch and Release fishing for salmon and
additional measures for sea trout in Welsh rivers, which has been our preferred option for
most rivers, will not be introduced for the 2017 season. This is because we have concluded
that we need more time to ensure we have confirmed the right set of measures to secure the
right outcome.
We cannot pre-judge the outcome of the consultation or the timetable for subsequent
implementation of new measures. The serious situation to which we are responding continues to
be a matter for great concern, and we urge fisheries and fishermen to introduce their own
effective voluntary measures this year to ensure no salmon are killed in 2017.
All our existing byelaws including The Spring Salmon byelaws, requiring the release of all rodcaught
fish prior to 16th June and all net-caught fish prior to 1st June, remain in force along with other measures found here:
https://naturalresources.wales/fisheries/fishing/?lang=en
CURRENT STATUS OF SALMON AND SEA TROUT
Salmon and in some cases sea trout stocks are severely challenged throughout Wales. Our
evidence is that numbers of returning adult fish are generally at historic lows, and we have now
also noted a very worrying and significant reduction in the number of young fish in our streams.
This will have a significant impact on future generations of fish.
The delay in developing new control measures in response to this means that we will have a
further years’ assessment of our stocks to consolidate our views.
Adult salmon
We have 23 principal salmon rivers in Wales, and, in 2016, all but 2 stocks (Severn and
Glaslyn) were assessed as ‘At Risk’ or ‘Probably at Risk’ of failing to achieve their
Management Target.
The early evidence from the 2016 season is that there has been no marked improvement in
the salmon run – as determined by an initial review of catches (with the exception of the
River Wye). Early results from our monitoring programme on the River Dee, a nationally
important index river, indicates that the salmon run in 2016 was among the lowest in 25
years of monitoring.
Adult sea trout
We also have 33 main sea trout rivers, and 15 (45%) of the stocks were assessed as either
‘At Risk’ or ‘Probably at Risk’ in 2015.
Stocks in South West Wales are giving rise to most cause for concern
Juvenile salmon and trout – 2016 monitoring results.
Our annual fish monitoring in 2016 showed a marked reduction in the numbers of salmon
and trout fry derived from spawning in the winter of 2015/16. There was also a broad
reduction in numbers of older fish derived from spawning in 2014/15.
www.naturalresourceswales.gov.uk Page 2 of 4
These results are unprecedented. The effect was widespread across Wales with similar
declines reported on rivers in England, Scotland, Ireland and France. This implies broadscale,
common causative factors.
As a consequence of this significant and wide scale effect, poor returns of adult salmon and
sea trout are more likely in many rivers in 2018-2021, but particularly so in 2019 and 2020.
Our response
Given the depleted state of salmon stocks, our ambition is that no adult salmon are deliberately
killed by the fisheries in 2017. Hence, we urge anglers and netsmen to voluntarily release all the
salmon they catch.
To achieve this, we ask all angling clubs, fishing associations and fishery owners to introduce their own rules to ensure all salmon, and a greater proportion of larger sea trout, are returned alive and
well to the river.
We also ask for fishery rules to be amended to end fishing methods that damage fish. In this way
released fish will have the greatest chance of surviving and contributing to future fish stocks by
successfully spawning.
OUR PREFERRED OPTIONS FOR ADULT EXPLOITATION CONTROL
In the meantime, we continue to prepare a technical case on which proposals for future fishing
controls will be based.
Our current outline proposals are:-
- New byelaw controls requiring:-
– Full statutory Catch and Release (no kill) fishing for salmon in rod and net fisheries
across Wales (with the probable exception of rivers where stocks are deemed
‘Probably Not at Risk’ or ‘Not at Risk’).
– Additional controls on nets and rods where sea trout stocks are considered to be in
poor condition. Controls may include: slot length (a limit on the maximum size of
fish that can be retained), amendments to fishing seasons and the use of catch
conditions on nets to limit the number of carcass tags issued, and hence the number of sea trout taken, to sustainable limits.
– Wherever Catch and Release rod fishing is in place – additional statutory controls to
prevent the use of methods that are not compatible with high survival rates of
released fish. These may include prohibitions on bait fishing, the use of barbed
hooks and the use of treble hooks.
- A renewed Net Limitation Order (NLO):-
– Although we do not currently propose to reduce the number of net licences available
under the terms of the current NLO, we will be proposing to amend byelaws to
prevent the taking of any salmon and to limit the numbers of sea trout that may be
killed. We are therefore minded to consult on a ‘no change’ NLO.
www.naturalresourceswales.gov.uk Page 3 of 4
CONCLUSION
Salmon stock levels in Wales are considerably below the level that we consider to be either
sustainable or desirable.
Some of our sea trout stocks are similarly low and in an unsustainable condition.
Continuing to kill fish whilst stocks are depleted presents an unacceptable risk.
If we are going to protect our fisheries, help them recover and ensure they are resilient to future
pressures, then we must maximise the numbers of fish that survive to spawn. This is crucial, whilst
other work is ongoing to restore river habitats.
For the 2017 season, we ask everyone to increase commitment towards:-
A voluntary no-kill of salmon throughout 2017 for all net and rod fisheries in Wales
Anglers to only use methods which give returned fish the best chance of survival.
If you have any queries please contact us at Fisheries.Wales@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
www.naturalresourceswales.gov.uk Page 4 of 4
Briff ar gyfer Grwpiau Pysgodfeydd
Lleol
STATWS STOCIAU EOGIAID A SEWIN.
MESURAU RHEOLI PYSGOTA ARFAETHEDIG YNG
NGHYMRU – DIWEDDARIAD
Tîm Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu Pysg Pysgodfeydd,
Chwefror 2017
www.cyfoethnaturiol.cymru Tudalen 1 o 4
CYD-WELEDIGAETH
- Mae Cyfoeth Naturiol Cymru
wedi derbyn y dasg gan Lywodraeth Cymru o weithredu a chyflawni dyletswyddau statudol
perthnasol ar gyfer pysgodfeydd, er mwyn sicrhau bod poblogaethau o bysgod dŵr croyw a
physgod mudol yng Nghymru yn cael eu rheoli mewn modd cynaliadwy.
- Mae pysgodfeydd Cymru yn eiconaidd, yn enwog, ac yn cael eu mawrbrisio – ac yn cyfrannu at
gymunedau hyfyw a bywiog yng Nghymru. Mae’r stociau pysgod sy’n eu cynnal yn cael eu
mawrbrisio yn yr un modd fel adnodd naturiol pwysig, ac rydym yn ceisio eu rheoli o fewn
terfynau cynaliadwy.
- Mae statws pysgodfeydd Cymru yn ddangosydd ar gyfer iechyd a chydnerthedd adnoddau
naturiol Cymru. Mae nifer o rywogaethau’n sail i ddynodiadau ar gyfer wyth safle Natura 2000
yng Nghymru.
- Ein gweledigaeth yw y bydd poblogaethau pysgod iach a gwyllt yng Nghymru yn cynnal
pysgodfeydd sy’n ffynnu ac yn cael eu rheoli mewn modd cynaliadwy.
YMGYSYLLTU AC YMGYNGHORI YN Y DYFODOL
Mae ein gwaith o gysylltu â Grwpiau Pysgodfeydd Lleol ynglŷn â statws ein stociau eogiaid a
sewin, a mesurau rheoli ymelwa newydd posibl sydd eu hangen i wella eu statws, wedi bod yn
parhau am flwyddyn o leiaf. Hyd yn hyn, gwnaed hyn trwy waith cysylltu anffurfiol lle rydym wedi
ceisio safbwyntiau a phrofiad gan bysgotwyr a rhanddeiliaid ledled Cymru.
Mae newid is-ddeddfwriaethau pysgodfeydd cyfredol ar gyfer eogiaid a sewin yn fater cymhleth.
Mae’n rhaid inni wneud y penderfyniad cywir i amddiffyn stociau pysgod sydd wedi dirywio, a
sicrhau eu bod yn cael eu rheoli mewn modd cynaliadwy er budd pysgotwyr a phobl Cymru yn y
dyfodol.
Rydym wedi siarad â grwpiau pysgodfeydd ledled Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf, ac wedi bod
yn adolygu’r holl dystiolaeth sydd ar gael. Rydym yn parhau i wneud hynny, a phan fyddwn wedi
llawn ystyried yr holl faterion perthnasol, byddwn yn gwneud penderfyniad ynglŷn â’r hyn sydd ei
angen er mwyn rhoi sylw i stociau sy’n dirywio. Mae’n debyg y bydd hyn yn dal i gynnwys isddeddfwriaethau
newydd i reoleiddio pysgota â gwialen a rhwyd ar gyfer tymor 2018, a hefyd
adnewyddu Gorchymyn Cyfyngu ar Rwydi Cymru Gyfan.
Rydym wedi gwrando ar ein grwpiau pysgodfeydd lleol, ac wedi derbyn ac wedi croesawu llawer o
adborth a sylwadau adeiladol. Rydym yn ddiolchgar i bawb sydd wedi cyfrannu, ac rydym wedi
llawn ystyried pob safbwynt yn ofalus wrth inni adolygu ein safbwynt ni. Mae hyn wedi cymryd mwy
o amser nag roeddem yn ei ddisgwyl ac, felly, mae’r broses wedi cael ei hoedi, ond rydym yn dal
yn obeithiol y byddwn yn lansio ymgynghoriad cyhoeddus cyn bo hir. Bellach rydym yn gobeithio
dechrau’r broses hon ym mis Ebrill, pan fyddwch yn gweld y pecyn o fesurau y byddwn yn eu hargymell i Lywodraeth Cymru.
Tudalen 1 o 4
Oherwydd natur gymhleth ac, o bosibl, gynhennus y mesurau, bydd yr ymgynghoriad ar agor am
gyfnod o 12 wythnos, yn hytrach na’r cyfnod arferol o rhwng pedair a chwe wythnos. Bydd hyn yn
sicrhau bod gan bawb amser i ymateb. Ar ôl hynny, bydd cyfnod ar gyfer ystyried ac ymateb i
sylwadau.
O ganlyniad i’r amserlen amlinellol hon, gall CNC gyhoeddi na fydd unrhyw newidiadau i isddeddfwriaethau
pysgota ar gyfer tymor 2017. Ni fydd mesurau dal a rhyddhau gorfodol ar
gyfer eogiaid a mesurau ychwanegol ar gyfer sewin yn afonydd Cymru – sef yr opsiwn sydd
wedi cael ei ffafrio gennym ar gyfer y rhan fwyaf o afonydd – yn cael eu cyflwyno ar gyfer
tymor 2017. Mae hyn oherwydd rydym wedi dod i’r casgliad bod angen rhagor o amser
arnom i sicrhau ein bod wedi cadarnhau’r set gywir o fesurau er mwyn sicrhau’r canlyniad
cywir.
Ni allwn ragfarnu canlyniad yr ymgynghoriad na’r amserlen ar gyfer y gwaith dilynol i weithredu’r
mesurau newydd. Mae’r sefyllfa ddifrifol rydym yn ymateb iddi’n parhau i fod yn fater sy’n peri
pryder mawr, ac rydym yn annog pysgodfeydd a physgotwyr i gyflwyno eu mesurau
effeithiol eu hunain yn wirfoddol eleni i sicrhau nad oes unrhyw eogiaid yn cael eu lladd yn
2017.
Mae ein holl is-ddeddfwriaethau cyfredol – gan gynnwys is-ddeddfwriaethau eogiaid gwanwyn yn
ei gwneud yn ofynnol rhyddhau’r holl bysgod a ddelir â gwialen cyn 16 Mehefin a’r holl bysgod a
ddelir â rhwyd cyn 1 Mehefin – yn parhau i fod mewn grym yn ogystal â mesurau eraill a geir yma:
https://naturalresources.wales/media/680578/is_ddeddfau_pysgota_2017.pdf?lang=cy
STATWS CYFREDOL EOGIAID A SEWIN
Mae stociau eogiaid ac mewn rhai achosion sewin yn wynebu heriau difrifol ledled Cymru. Mae
tystiolaeth bod niferoedd o bysgod aeddfed sy’n dychwelyd wedi cyrraedd y lefelau isaf ers i
gofnodion ddechrau, a bellach rydym wedi nodi gostyngiad sylweddol yn nifer y pysgod ifanc yn ein
nentydd, sy’n peri pryder. Bydd hyn yn cael effaith sylweddol ar genedlaethau pysgod yn y dyfodol.
Mae’r oedi yn y gwaith o ddatblygu mesurau rheoli newydd mewn ymateb i hyn yn golygu y bydd
gennym flwyddyn bellach i asesu ein stociau ac atgyfnerthu ein safbwyntiau.
Eogiaid aeddfed
Mae gennym 23 prif afon eogiaid yng Nghymru, ac yn 2016 dangosodd asesiadau fod
stociau pob un ond dwy (Afon Hafren ac Afon Glaslyn) ‘Mewn Perygl/ neu ‘Yn Debygol o
Fod Mewn Perygl’ o beidio â chyrraedd eu Targed Rheoli.
Mae’r dystiolaeth gynnar o dymor 2016 yn dangos na fu unrhyw welliant sylweddol i’r llif
eogiaid – yn ôl adolygiad cychwynnol o ddalfeydd (ac eithrio Afon Gwy). Mae canlyniadau
cynnar o’n rhaglen fonitro ni ar Afon Dyfrdwy, afon sy’n fynegai o bwys cenedlaethol, yn
dangos bod y llif eogiaid yn 2016 ymhlith yr isaf mewn 25 mlynedd o fonitro.
Sewin aeddfed
Mae gennym hefyd 33 prif afon sewin, gydag asesiadau’n dangos bod 15 (45%) o’r stociau
‘Mewn Perygl’ neu ‘Yn Debygol o fod mewn Perygl’ yn 2015.
Ystociau yn ne-orllewin Cymru sy’n peri’r pryder mwyaf.
www.cyfoethnaturiol.cymru Tudalen 2 o 4
Eogiaid a brithyll ifanc – canlyniadau monitro 2016
Roedd ein gwaith monitro blynyddol yn 2016 yn dangos gostyngiad amlwg yn nifer y silod
eogiaid a brithyllod a oedd yn tarddu o silio yng ngaeaf 2015/16. Roedd hefyd gostyngiad
cyffredinol yn niferoedd pysgod hŷn a oedd yn tarddu o silio yn 2014/15.
Nid oes cynsail i’r canlyniadau hyn. Roedd yr effaith yn helaeth ledled Cymru, gyda
dirywiadau tebyg yn cael eu hadrodd ar afonydd yn Lloegr, yr Alban, Iwerddon a Ffrainc.
Mae hyn yn awgrymu bod ffactorau achosol cyffredinol ar raddfa eang.
O ganlyniad i’r effaith sylweddol hon ar raddfa eang, mae niferoedd isel o eogiaid a sewin
yn dychwelyd yn fwy tebygol mewn llawer o afonydd yn 2018–21, ond yn benodol yn 2019
a 2020.
Ein hymateb
O ystyried cyflwr dirywiedig stociau eogiaid, ein huchelgais yw na fydd unrhyw eogiaid aeddfed yn
cael eu lladd o fwriad gan y pysgodfeydd yn 2017. Felly, rydym yn annog pawb sy’n pysgota â
gwialen a rhwyd i ryddhau’r yr holl eogiaid maent yn eu dal yn wirfoddol.
Er mwyn cyflawni hyn, rydym yn gofyn i’r holl glybiau pysgota, cymdeithasau pysgota a
pherchnogion pysgodfeydd gyflwyno eu rheolau eu hunain i sicrhau bod yr holl eogiaid, a chyfran
uwch o sewin mwy, yn cael eu dychwelyd i’r afon yn fyw ac yn iach.
Rydym hefyd yn gofyn i reolau pysgodfeydd gael eu diwygio i ddod â dulliau sy’n niweidio pysgod i
ben. Yn y ffordd hon, bydd gan bysgod wedi’u rhyddhau’r tebygolrwydd mwyaf o fyw a chyfrannu at
stociau pysgod trwy silio’n llwyddiannus.
YROPSIYNAU SY’N CAEL EU FFAFRIO GENNYM AR GYFER RHEOLI YMELWA AR
BYSGOD AEDDFED
Yn y cyfamser, rydym yn parhau i baratoi achos technegol y bydd cynigion ar gyfer rheoli pysgota
yn y dyfodol yn seiliedig arno.
Mae ein cynigion amlinellol fel a ganlyn:
- Mesurau rheoli is-ddeddfwriaethol newydd sy’n gofyn am y canlynol:
– Mesurau dal a rhyddhau statudol cyflawn (dim lladd) ar gyfer pysgodfeydd gwialen a
rhwyd ledled Cymru (gyda’r eithriad tebygol ar gyfer afonydd lle yr ystyrir ei bod yn
debygol nad yw stociau ‘Mewn Perygl’ neu ‘Ddim mewn Perygl’).
– Mesurau rheoli ychwanegol ar gyfer gwialenni a rhwydau lle ystyrir bod stociau o
sewin mewn cyflwr gwael. Mae’n bosibl y bydd mesurau rheoli’n cynnwys y
canlynol: hyd slot (terfyn ar hyd y pysgodyn y gellir ei gadw), diwygiadau i dymhorau
pysgota a’r defnydd o amodau dalfa ar gyfer rhwydi i gyfyngu nifer y tagiau sgerbwd
a ddyroddir, ac o ganlyniad nifer sewin a gymerir, i lefelau cynaliadwy.
– Lle bynnag mae mesurau dal a rhyddhau ar waith ar gyfer pysgota gwialen,
mesurau rheoli statudol ychwanegol i atal y defnydd o ddulliau nad ydynt yn
gydweddus â niferoedd uchel o bysgod yn cael eu rhyddhau’n byw. Mae’n bosibl y
bydd y rhain yn cynnwys gwaharddiadau rhag pysgota ag abwyd, a’r defnydd o
fachau adfachog a bachau triphlyg.
www.cyfoethnaturiol.cymru Tudalen 3 o 4
- Gorchymyn Cyfyngu ar Rwydi diwygiedig:
– Er nad ydym yn cynnig lleihau nifer y trwyddedau sydd ar gael o dan delerau’r
Gorchymyn Cyfyngu ar Rwydi cyfredol, byddwn yn cynnig diwygio isddeddfwriaethau
i atal pobl rhag mynd ag unrhyw eogiaid ac i gyfyngu nifer sewin a
allai gael eu lladd. Felly, rydym yn ystyried ymgynghori ar Orchymyn Cyfyngu ar
Rwydi ‘dim newid’.
CASGLIAD
Mae stociau eogiaid yng Nghymru gryn dipyn o dan y lefel rydym yn ei hystyried yn gynaliadwy ac yn ddymunol.
Mae rhai o’n stociau ni o sewin yr un mor isel ac mewn cyflwr anghynaliadwy.
Mae parhau i ladd pysgod pan fydd stociau’n isel yn peri risg annerbyniol.
Os ydym am amddiffyn ein pysgodfeydd, eu helpu i adfer a sicrhau eu bod yn gydnerth rhag
pwysau yn y dyfodol, rhaid inni uchafu nifer y pysgod sy’n goroesi i silio. Mae hyn yn hanfodol, tra
bo gwaith arall yn parhau i adfer cynefinoedd afonol.
Yn ystod tymor 2017, rydym yn gofyn i bawb gynyddu eu hymroddiad tuag at y canlynol:
Polisi gwirfoddol i beidio â lladd eogiaeogiaid trwy gydol 2017 ar gyfer yr holl bysgodfeydd
gwialen a rhwyd yng Nghymru
Pysgotwyr i ddefnyddio ond dulliau sy’n rhoi’r cyfle gorau i fyw i bysgod sy’n cael eu
dychwelyd.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau cysylltwch â ni yn
Fisheries.Wales@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk